Adeiladwch wefan hardd fydd yn tyfu efo'ch busnes.

Joomla! 4.0

Byd Newydd o Bosibiliadau

Joomla 4 i Bawb

System Rheoli Cynnwys (CMS) Ffynhonnell Agored sydd wedi ennill gwobrau yw Joomla. Caiff ei adeiladu a'i gynnal gan gymuned gryf o wirfoddolwyr sy'n ymdrechu i greu meddalwedd cadarn, diogel a hawdd i'w ddefnyddio.
Mae'n rhad ac am ddim i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio a mae ei nodweddion ar flaen y gad mewn technoleg y we.

Mae Joomla yn galluogi awduron gwefannau i greu gwefannau pwerus, lle mae diweddaru cynnwys yn syml a hawdd.

Hyblygrwydd

Rydych eisiau system hyblyg sy'n hawdd i addasu'n bersonol

  • Dros 6,500 o Estyniadau wedi eu Gwirio a Thempledau o Ansawdd Uchel ar gael, llawer ohonynt am ddim.
  • Dogfennaeth a Hyfforddiant Fideo ar gael am ddim.
  • System Cynllun ac Amnewidiadau a Swyddogaethau Estyniadwy ymgorfforedig yn hwyluso creu datrysiadau personol.
  • Hawdd i ddod o hyd a hurio Datblygwyr ac Integreiddwyr o Ansawdd Uchel.

Ffynhonnell Agored

Rydych eisiau system ffynhonnell agored, agored i'w graffu

  • Y cod ffynhonell hygyrch yn galluogi datblygwyr i ganfod a thrwsio chwilod yn gyflym.
  • Gyda meddalwedd ffynhonnell agored rydych yn debygol o gael cod o ansawdd uwch gyda llygaid y byd yn gallu gwirio a chynorthwyo.
  • Yn hawdd i ddatblygwyr ddysgu sut i ychwanegu'r swyddogaethau rydych eu hangen.
  • Costau is achos fod gennych ystod ehangach o ddatblygwyr ar gael i'w hurio.
Boost your chance of winning top place

Wedi ei optimeiddio ar gyfer SEO

Gwella eich siawns o gyrraedd y brig

  • Mae Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) da yn allweddol i gael eich gwefan wedi ei mynegeio ar beiriannau chwilio
  • Bydd Awdurdod; yn ei hanfod pa mor ddibynadwy yw eich gwefan, a'i hansawdd i gyd yn elwa o SEO rhagorol.
  • Bydd y sylw a roir i SEO yn rhoi gwell profiad i ddefnyddwyr eich gwefan.
  • Bydd talu sylw i'r elfennau sy'n cyfri ar gyfer SEO count yn golygu twf yn eich cynulleidfa.

Diogelwch Gyntaf

Rydych eisiau system ddiogel sy'n gadarn

  • Gyda ffocws ar ddiogelwch, mae Joomla 4 yn gymorth i ddiogelu eich brand.
  • Mae diogelwch da yn hanfodol i gadw eich data'n ddiogel.
  • Mae cost tor-ddata yn uchel felly rhaid dechrau gyda System Rheoli Data (CMS) cryf a dibynadwy

Cynnwys amlieithog

Rydych eisiau system sy'n tyfu'n ddiffwdan gyda'ch busnes

  • Gyda Joomla 4 mae gennych system sy'n amlieithog allan o'r bocs.
  • Dim angen estyniadau ychwanegol i ychwanegu ieithoedd.
  • Mae'n caniatáu tudalennau penodol i bob iaith fel eu bod yn diwallu anghenion diwylliannol gwahanol sydd angen ar eich cleientiaid.
  • Siaradwch â'r byd gyda Joomla 4.
You want a system that can grow as you do

System sy'n tyfu

Rydych eisiau system sy'n gallu tyfu gyda chi

  • Mae tyfiant yn hanfodol ar gyfer unrhyw fusnes a gyda Joomla 4 mae ganddoch chi'r lle i wneud hynny.
  • Gyda amlieithrwydd allan o'r bocs gall eich busnes ehangu pryd bynnag bo angen.
  • Gyda rhestr gynyddol o estyniadau trydydd parti gellir diwallu anghenion eich cleientiaid yn hawdd.
  • Mae ffynhonnell agored, diogelwch cadarn a grŵp mawr o ddatblygwyr yn eich galluogi i gael meddalwedd wedi addasu'n bersonol ar eich cyfer am bris cystadleuol.

Joomla mewn Rhifau

Mae'r adran hon yn dangos llwyddiannau Joomla!
yn y blynyddoedd diwethaf. Rhifau go iawn a phynciau perthnasol.

  • 134+
    Miliwn Lawrlwythiad
    ar draws y byd
  • 6.5+
    Mil Estyniad
    ar draws y byd
  • 2.5+
    Miliwn Gwefan
    ar draws y byd
  • 1.5+
    Mil Gwirfoddolwr
    ar draws y byd

Joomla 4 i Chi

Gyda Joomla gallwch adeiladu sawl math o wefan. Gwefannau Cymunedol, e-fasnach neu e-ddysgu, gall Joomla addasu i strwythur neu bwrpas y wefan sydd gennych mewn golwg. Mae gan Joomla ystod eang o nodweddion i'ch helpu i gael canlyniadau gwych:

Icon of laptop with browser and guided tours modal.

Joomla4GuidedTours

Guided tours are a great way to learn how to use the administrator section of your site. Guided tours come preinstalled for the most common tasks and can be extended and built from scratch to guide visitors through any component or configuration.

Read magazine article

Joomla4Multifactor - Multi-factor Authentication logo

Joomla4Multifactor

With security at its heart, Joomla has offered two factor authentication for years. Now Joomla adds multi-factor allowing you to chose the other authentication, giving you more control in your sites security and future proofing authentication.

Read documentation

Joomla4Shortcuts - logo for Joomla 4.2 feature, shortcut keys

Joomla4Shortcuts

Keyboard shortcuts are there to make life easier. Simple keyboard keystrokes that increase your productivity. Now you can use set shortcuts and define your own keyboard shortcuts taking your editing skills to a new level.

Read documentation

Joomla4Childtemplates - Child templates logo

Joomla4Childtemplates

Childtemplates allow you to create different looks for your site without editing your template. The seperation makes updating the template so much easier. With child templates, all the assets are in the media folder. All controlled from one XML file.

Read documentation

Joomla4TaskScheduler - Task schedular logo

Joomla4TaskScheduler

Do you have tasks you do time and time again?
Or tasks for the future which you must not forget to do? Now you can automate them with ease using the new Task Scheduler that shipped in Joomla 4.1.

Read documentation

Joomla4SEO - SEO logo

Joomla 4 ar gyfer SEO

Cyrhaeddwch frig unrhyw beiriant chwilio'n gyflym gyda Joomla 4. Mae'n gofalu am SEO fel y gallwch chi ganolbwyntio ar dynnu sylw at eich cynnwys gwych. Mae'r ffaith fod SEO wedi ei ymgorffori ymhob tudalen yn golygu eich bod yn cael y strwythur tudalen cywir heb estyniadau pellach.

Darllenwch y dogfennaeth

Joomla4Design - A redesigned administration area logo.

Joomla 4 ar gyfer Dyluniad

Mae'r wefan weinyddol wedi ei hail gynllunio i gyflymu creu cynnwys. Mae'r Rheolwr Cyfryngau wedi ei wella a'r diweddariadau i'r golygydd yn rhoi'r gallu i chi gynllunio a chreu gwefannau gwych. Mae templedau erthygl yn eich cynorthwyo chi a'ch cydweithwyr i gadw at y cynllun tudalen.

Darllenwch y dogfennaeth

Joomla4Search - Let your users find your content fast and efficiently. Search logo

Joomla 4 ar gyfer Chwilio

Gadewch i'ch defnyddwyr ganfod eich cynnwys yn gyflym ac effeithlon. Gallwch ffurfweddu chwilio uwch Joomla 4. Gyda mynegeiwr gweithredol, unwaith mae wedi ei fynegeio mae'n ychwanegu cynnwys fel mae'n cael ei greu felly does ond rhaid i chi ganolbwyntio ar greu cynnwys mwy trawiadol.

Darllenwch y dogfennaeth

Joomla4Emails - Customisable email templates logo

Joomla 4 ar gyfer E-byst

Templedau e-bost y gellir eu haddasu'n bersonol i gyflymu'r broses o greu gwefan a'i haddasu. Newidiwch e-byst y wefan yn ôl eich brand. Defnyddiwch arddull penodol eich gwefan i gyfathrebu gyda'ch defnyddwyr pan yn anfon e-byst o'r wefan.

Darllenwch y Dogfennaeth

Joomla4Workflows - Workflows logo

Joomla 4 ar gyfer Llifoedd Gwaith

Gyda Llifoedd Gwaith gallwch creu unrhyw nifer o brosesau i fynd a'ch creu cynnwys o'r syniad i gyhoeddiad caboledig mewn modd trefnus. Mae ategion Llif Gwaith yn creu ecosffer grymus newydd sy'n cyflymu creu cynnwys.

Darllenwch y dogfennaeth

Joomla4Speed - Performance and speed logo

Joomla 4 ar gyfer Cyflymder

Gyda Joomla 4 cewch fudd o'r cynnydd mewn perfformiad. Cyflymder yw un o'r prif ddylanwadau i sicrhau fod clicio yn arwain at weld eich cynnwys. Os mai gwefan e-fasnach sydd gennych neu angen i gynyddu eich tanysgrifiadau bydd Joomla 4 yn ei sbarduno..

Darllenwch y dogfennaeth

Joomla4Accessibility - Accessibility logo

Joomla 4 ar gyfer Hygyrchedd

Mae Joomla 4 yn sicrhau yr hygyrchedd gorau un. Bydd pob ymwelydd a'ch gwefan yn elwa. Mae hygyrchedd wedi ei ymgorffori yn y cynllun, y cyferbynnedd a'r strwythur. Ma Joomla 4 yn anelu i fodloni canllawiau hygyrchedd W3C (WCAG) 2.1 (gyda chydymffurfiad AA)

Darllenwch y dogfennaeth

Joomla4Security - Security logo.

Joomla 4 ar gyfer Diogelwch

Mae rhedeg gwefan gyda cod blaengar o safon yn eich helpu i gadw'n ddiogel. Mae Joomla 4 yn cynnwys llawer o newidiadau i sicrhau y diogelwch gorau a chadw hacwyr allan. Symud i Joomla 4 yw'r dewis doeth.

Darllenwch y dogfennaeth

Helpwch ni i gyfieithu Joomla 4!

Gyrrir gan Crowdin Enterprise

crowdin

Diolch!

Hoffai'r Prosiect Joomla! ddiolch i'r cannoedd o bobl gweithgar, brwdfrydig ac ymrwymedig sydd wedi gwneud Joomla 4 yn bosibl.
Rhai'n hysbys, rhai ddim a rhai, yn anffodus, wedi'n gadael.
Rydych chi i gyd yn rhan o'r llwyddiant yma a dim ond gyda chymaint yn cynorthwyo yn rhad ac am ddim
y gall prosiect ffynhonnell agored ar sail cymuned ddod yn fyw a chynhyrchu Joomla 4.